Εικόνες σελίδας
PDF
Ηλεκτρ. έκδοση

Mor ddistadl oedd Chwarel y Penrhyn, (a elwir hefyd Chwarel Cae braich y Cafn, ac weithiau Chwarel Bethesda) yn y flwyddyn 1793, fel nad oedd ynddi ond oddeutu cant a hanner o weithwyr. Cyn dechreu ar y gweithrediadau yn Mhorthladd y Penrhyn, cludid y llechau yn bynau i Aberogwen; a phan y deuai yno long i gael ei llwytho, anfon nifer o'r chwarelwyr i lawr i'r dyben hyny y byddid. Ryw chwe' mlynedd a thriugain yn ol, gan hyny, ychydig iawn o longau o'r maintioli lleiaf yn unig oedd yn angenrheidiol er dwyn ymaith yr holl lechi a gynnyrchid yn Chwarel y Penrhyn. Dywed un ysgrifenydd nad oedd yn Mangor y pryd hwnw, ddim dros 150 o annedd-dai. Y mae yn awr yn ddinas eang a hardd, a chynnwysa flloedd lawer o drigolion. O fod yn gant a hanner mewn rhifedi, y mae gweithwyr y chwarel wedi cynnyddu i fod uwchlaw TAIR MIL; tra y mae porthladd y Penrhyn wedi dyfod yn lle mawr, pwysig, ac ardderchog. Yn 1800, ni welid yno ond ambell hwylbren yn unig; yn awr, gwelir yno fforest o hwylbreni ar bob adeg o'r flwyddyn. Deallwn fod uwchlaw CAN' MIL O dunelli o lechi yn cael eu hanfon allan yn flynyddol o'r porthladd hwn yn unig. Y mae ffyniant y fasnach mewn llechi yn creu bywyd rhyfeddol yn y lle, ac yn y wlad o amgylch.

Y mae hanes Port Dinorwig, a saif tua chanol y ffordd cydrhwng Bangor a Chaernarfon, rywbeth yn debyg o ran ansawdd i eiddo Porthladd y Penrhyn. Dechreuasant ddyfod i enwogrwydd oddeutu yr un amser; ac ar eu gyrfa o lwyddiant, y mae y ddau le wedi bod megis yn cydredeg ochr yn ochr drwy y blynyddau. Yma y dygir yr holl lechi a gynnyrchir yn Chwarel Dinorwig, ger Llanberis. Y mae nifer y gweithwyr yma ychydig gannoedd yn llai nag yn chwarel y Penrhyn; ac felly hefyd y mae gyda golwg ar nifer y tunelli a anfonir ymaith o'r porthladd. Adwaenid y lle gynt wrth enw arall, sef y Felinheli; a dyma yr enw wrth ba un y mae llaweroedd yn ei adnabod etto. Gellid casglu fod yno yn yr hen amser Felin yn cael ei throi gan ddwfr hallt; ac mai oddiwrth hono y deilliodd yr enw. Pa fodd bynag am hyny, cof genym fyned drwy y lle lawer gwaith, pryd nad oedd ond ambell anedd-dŷ bychan yn unig i'w ganfod yma a thraw. Erbyn hyn y mae yn y lle ddigon o dai i ffurfio tref o gryn faintioli, pe byddent oll gyda'u gilydd. Ychydig o fanau yn y Gogledd sydd wedi cyfnewid cymmaint er gwell mewn cyn lleied o amser. mae pobl yn fyw yn yr ardal a allant gofio gweled y llechi yn cael eu cludo i lawr y gelltydd yn bynau ar gefnau ceffylau. Yn awr, llusgir hwynt yn gannoedd o dunelli i lawr bob dydd gan agerbeiriant cryf, hyd gledrffordd lydan tua'r lle. Ychydig iawn o lestri, a'r rhai hyny o faintioli gweddol, a welid yno y pryd hwnw, ond yn awr canfyddir yno ar bob adeg o'r flwyddyn ugeiniau o longau godidog, naill ai yn cael eu llwytho, neu yn disgwyl am hyny.

Y

Yn nhref a phorthladd Caernarfon hefyd y mae cyfnewidiadau mawrion wedi cymmeryd lle mewn cyfnod heb fod yn faith. Bedwar ugain mlynedd yn ôl nid oedd yno braidd un math o Lwythfa (Quay), na dim llongau o faintioli oddieithr pur ychydig. Yn yr hanes a rydd Mr. John Wynne am y dref, efe a ddywed mai yr unig un oedd yn llwytho llechi yno y pryd hwnw oedd "Elizabeth James, Tanybont," a'u bod yn myned ymlaen "drwy gynnorthwy bechgyn y dref, i'r rhai y rhoddai ddimai neu ddarn o gingerbread am eu gwasanaeth; a hwy a lwythent y llongau â'r ceryg gyda'u dwylaw, heb na phlane na berfa." I Dublin yr arferid anfon y llechi y pryd hwnw, a rhyw gymmaint hefyd i Liverpool. Y mae y dernyn canlynol etto dipyn yn ddifyrus: "Yn ddilynol i Elizabeth James, ei mab James aeth yn llwythwr, a Mr. Robert Griffith, Cantwr Salm (fel y gelwid ef, oblegid efe oedd y cantwr yn Llanbeblig) a aeth i bartneriaeth âg ef yn y gorchwyl; ac wedi hyny fe aeth Mr. Robert Griffith, Heol y llyn, yn bartner â Mr. Robert Griffith, Cantwr Salm; y ddau olaf oedd y rhai a ddechreuasant lwytho slates yn nghei Caernarfon, gyda berfa a phlanciau." Diau y bydd yn chwith gan bobl ieuaingc sydd yn adnabyddus o holl longau a masnach Caernarfon yn awr ddarllen tystiolaethau fel y rhai blaenorol.

Edrychwn ymlaen yn nesaf tua Phorth Madog, un etto o borthladdoedd penaf gogledd-barth y Dywysogaeth. Yma y cludir i lawr yr holl lechi a weithir yn chwareli mawrion a phrysur Ffestiniog. Nid yw y lle hwn ond o gyfodiad diweddar. Derbyniodd yr enw oddiwrth yr hyglod W. A. Maddocks, Ysw., A.S. Efe oedd y gwron anturiaethus a ymgymmerodd â'r gorchwyl mawr o weithio y môrglawdd (embankment) sydd yn cyssylltu siroedd Caernarfon a Meirionydd ynghyd. Llwyddodd i gael awdurdod seneddol i'r perwyl yn y flwyddyn 1808, a gwelodd yr amcan wedi ei gwblhau rywbryd yn 1811. Drwy hyn ennillwyd miloedd lawer o erwau o dir hyfryd a chynnyrchiol; ond yr oedd y draul uwchlaw £100,000. Yn flaenorol i hyn nid allasai fod hanfodiad i'r dref brydferth a adweinir yn awr wrth yr enw Porth Madog. Mae ei chynnydd mewn blynyddoedd diweddar wedi bod yn rhyfeddol. Erbyn hyn y mae ei phoblogaeth i'w cyfrif wrth y miloedd. Ymwela cannoedd o lestri â'r fan bob blwyddyn; gall llongau a gludant tri chant o dunelli ddyfod i'r porthladd. Gwneir yma gyfnewidiadau mawrion er gwell yn feunyddiol, ac adeiledir llongau newyddion yno gydag egni a phrysurdeb mawr.

Mewn blynyddoedd diweddar y mae hefyd gryn gyfnewidiad wedi cymmeryd lle, a hyny yr ochr oreu, gyda glanau y môr o Aberdyfi ymlaen heibio i Aberystwyth, Aberteifi, ac wedi hyny ymlaen tua Milford, er fod enwogrwydd mawr y lle olaf wedi darfod yn ganlynol i symudiad y Dock-yard er adeiladu llongau rhyfel ymaith oddiyno. Y lle nesaf o ddim hynodrwydd a ddaw

yn ein ffordd etto, er eglurhau y mater sydd genym mewn llaw ydyw Llanelli, sir Gaerfyrddin. Rhyw bedwar ugain mlynedd yn ol nid oedd yma ond porthladd bychan disylw; ychydig longau bychain yn unig a droent i mewn iddo. Prif waith pobl y lle y pryd hwnw oedd pysgota. Wedi i'r ganrif bresennol wawrio y canfyddwyd ei bod yn angenrheidiol dechreu o ddifrif ar y gwaith o adeiladu Dociau yno, oblegid bellach yr oedd y gweithfeydd glo yn yr ardaloedd o amgylch yn amlhau, ac yn cael eu gweithio gyda phrysurdeb rhyfeddol. I ddangos fel y mae trafnidiaeth forwrol y lle wedi cynnyddu, gallwn grybwyll yma nad oedd holl nifer y llongau a gliriodd allan o barthladd Llanelli yn y flwyddyn 1800, yn ddim ond 331; erbyn 1831 yr oeddynt wedi cynnyddu i 816, yn cario 53,844 o dunelli; ac erbyn 1855, sef pedair-arhugain o flynyddau yn ddiweddarach, yr oedd rhif y llongau a lwythid yno yn cyrhaedd i 2,900, yn cario 216,903 o dunelli.* Nid llawer o borthladdoedd yn Nghymru a allent ddangos cymmaint o gynnydd masnachol mewn gan lleied o amser.

Ond o holl borthladdoedd Cymru, y pwysicaf a'r penaf ydyw Abertawe. Y mae y lle wedi cyfodi mewn mawredd gyda phrysurdeb digyffelyb yn hanes y Dywysogaeth. Yn y ganrif ddiweddaf nid oedd ond lle bychan a dibwys mewn cymmhariaeth; ond ar ol dechreu myned rhagddo, y mae ei lwyddiant, megis yr awgrymwyd, wedi bod yn anarferol. Saif y porthladd yn ddiau mewn lle manteisiol odiaeth at ddwyn ymlaen drafnidiaeth ar raddfa eangach na chyffredin. Y mae y dociau wedi costio symiau aruthrol, a chymmer rhai o honynt i mewn lestri o'r maintioli mwyaf.

Porthladd Caerdydd ydyw y nesaf atto o ran pwysigrwydd, yn Nghymru. Y mae hanes y lle hwn etto yn dangos pa mor fawr fu y llwyddiant yn nhrafnidiaeth forwrol Cymru o fewn y ganrif bresennol. Oherwydd manteision arbenig y lle, ynghyda helaethiad a llwyddiant rhyfeddol y gweithfeydd mawrion hyny o bob desgrifiad a geir yn sir oludog Morganwg, gwelwyd yn angenrheidiol adeiladu Dociau yno o faintioli ardderchog; ac yn 1830 cafwyd gweithred seneddol i gario allan yr amcan dan sylw. Dygwyd y gweithydd mawrion hyny i ben, ynghyda'r Ship Canal, gan y diweddar Ardalydd Bute, gyda thraul o ddim llai na £300,000. Nid oedd trafnidiaeth forwrol y lle ond bychan mewn cymmhariaeth, tua diwedd y ganrif o'r blaen. Yn awr, ni bydd y porthladd byth heb fod ynddo gannoedd lawer o longau.

Trown ein sylw etto am foment at Casnewydd, yn sir Fynwy. Mewn byr amser y mae y lle hwn wedi ymddyrchafu o fod yn bentref dinod a gwael, i fod yn dref borthladdol o'r pwysigrwydd blaenaf. Mae ei lwyddiant i'w briodoli nid yn unig i fanteision naturiol y lle, ond hefyd i'r cyflawnder o drysorau mwnawl sydd yn y parthau mynyddig o'r wlad o amgylch. Yn y flwyddyn

* Gwel "Hanes Llanelli," gan Mr. D. Bowen.

1842 cwblhawyd dociau ardderchog yno, gyda thraul o £200,000, yr hyn a ddengys ar unwaith uchder ei llwyddiant.

Yn yr olwg ar yr holl gyfnewidiadau hyn a gymmerasant le o fewn yehydig gyda thriugain mlynedd yn ol, ymhob cyfeiriad oddeutu glanau ein moroedd, nid rhesymol yn ddiau a fyddai i neb o'r Morwyr Cymreig ymholi, gan ddywedyd: "Paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn ?"

RHAGOLYGON DYFODOL.

Gwelsom fel y mae wedi bod ar Forwyr Cymru o ran llwyddiant eu hamgylchiadau allanol yn yr amser a aeth heibio. Mewn byr amser y mae eu llongau wedi dyblu a threblu yn eu rhif. Cynnyddodd masnach ar dir a môr yn y cyfamser, gyda chyflymdra rhyfeddol. Oherwydd hyn cawsant oll ddigon o waith, digon o ymborth, a chymmaint o gyflog ag a'u cadwai mewn amgylchiadau mwy cysurus na llawer. Ni ddywedwn fod cyflogau morwyr etto yn cyfatteb i fawredd eu llafur, ac amledd eu peryglon; ond y mae yn sicr eu bod wedi gwella llawer er pan ydym ni yn cofio, a mwy fyth er dyddiau ein tadau. Tua diwedd y ganrif o'r blaen, yn ol tystiolaeth Dr. Adam Smith, nid oedd cyflog morwr yn Llundain ond o un i wyth-swllt-ar-hugain yn y mis. Pa ddyn mewn oed yn awr a feddyliai am droi allan i'r môr gyda chan lleied o gyflog a hyny yn y mis? Mynych y clywsom fod y freights yn isel; etto parhau yn dda bydd y cyflogau drwy y cyfan. Y mae y demand am lafur yn awr mor uchel ag erioed; ac nid yw y cyflenwad yn ormod, eithr yn hytrach i'r gwrthwyneb. Gwyddom y bydd yn rhwym o fod yn lled dda ar y gweithiwr, gan nad beth fyddo ei alwedigaeth, os bydd dau feistr yn amneidio arno yr un pryd, ac yn chwenych sierhau ei wasanaeth.

Ond beth am y dyfodol i'n morwyr twymgalon? Ai ni all rhyw ddrygfyd ddyfod i dywyllu ein rhagolygon yn yr amser a ddaw? Nid ydym yn proffesu ein bod yn gwybod dirgelion, nac yn hòni y gallwn rag-fynegi pethau i ddyfod; ond, ac i ni farnu y mater yn ngoleuni digwyddiadau yr amser a aeth heibio, ymddengys fod rhagolygon y Morwyr Cymreig yn gyfryw ag na raid iddo deimlo yr un petrusder yn eu cylch. Tra y pery dynion i gynniwair, a masnach i ffynu; tra y pery coed i dyfu, a dynion i adeiladu llongau, a'r moroedd i fod yn wasanaethgar i drafndiaeth; a thra y pery yn y Deheubarth gyflawnder o lo a haiarn at ddiwallu anghenion teyrnasoedd am gannoedd o flynyddau; a thra y bydd yn y gogledd-barth fynyddoedd uchel yn llech-faen pur o'r crib i'r gwaelod, ac y pery pobl yr Alban, a phobl Iwerddon, a phobl Llundain, a phobl Hamburg, a phobl pob man, i adeiladu tai, ac yn chwenych cael defnyddiau iawn i'w tai, nid ydym yn gweled fod gan Forwyr Cymru un achos i ofni na chânt ddigon o waith ac alian, ynghyda phob peth fydd yn eisiau arnynt.

RHAN II.

MORWYR CYMRU YN EU GWAHANOL

GYSYLLTIADAU.

YMA yr ydym i edrych ar ein Morwyr yn y golygiadau a enwir, sef yn Drafnidiol, Cymdeithasol, Moesol, a Chrefyddol. Dechreuwn gyda sylwi ar

EU CYSYLLTIADAU TRAFNIDIOL.

Arferir y gair Trafnidiaeth i ddynodi masnach neu newidwriaeth nwyddau cydrhwng pleidiau fyddo yn byw naill ai yn y wlad, neu mewn gwahanol wledydd. Y ffaith fod rhyw ranau o'r ddaear yn fwy cyfaddas i gynnyrchu daoedd neillduol at wasanaeth dyn-, olryw na rhanau eraill o honi, sydd i roddi cyfrif am hanfodiad yr holl newidwriaeth a welir yn cymmeryd lle yn y byd. Deuir o hyd i brif angenrheidiau bywyd agos ymhob lle,‚—mae natur yn darparu y rhai hyn lle bynag y ceir daear gynnyrchiol-ond, trafnidiaeth sydd yn rhoddi i ni amrywiaeth o bethau defnyddiol ac yn gosod cynnyrchion mwyaf dewisol gwahanol wledydd o fewn ein cyrhaedd. Dyma y cyfrwng appwyntiedig i wneuthur yn gyffredinol o ran budd yr hyn sydd leol o ran cynnyrchiad.

Fod trafnidiaeth yn fanteisiol i amlhau cyfoeth, yn gystal a bod yn wasanaethgar i liosogi mwynderau cymdeithasol, sy' ffaith mor eglur fel na feddylia neb am ei gwadu. Lle bynag erioed y gwelwyd trafnidiaeth yn flodeuog, yno hefyd y gwelwyd cyfundebau happus yn codi i fyny, a threfydd a phalasau godidog yn amlhau. Er prawf o hyn, ni raid i ni ond cyfeirio at y dinasoedd têg a adeiladwyd gynt yn nyddiau llwyddiant y brenin Solomon, ac at Alexandria wrth enau y Nile, a Venice yn ymddyrchafu oddiar ynysoedd y Po. Dacw yr Ital drachefn, o herwydd eangder ei thrafnidiaeth, wedi ei harddu â phob gogoniant; a'r Iseldiroedd hefyd yn ymgodi megis o'r môr, ac yn sugndynu iddynt eu hunain gyfoeth ynysoedd a gwledydd lawer. Mewn amseroedd diweddarach wedi hyny, dacw ddinasoedd trafnidiol yn prysur gyfodi ar lenydd y Ganges, yn yr India ddwyreiniol; ac os trown ein golygon dros y Werydd, tua y cyfandir Americanaidd, wele ryfeddodau didertyn yn ymagor o'n blaen, a'r cyfan yn dwyn tystiolaeth i werthfawredd a gogoniant trafnidiaeth. Yn ein gwlad ein hunain

« ΠροηγούμενηΣυνέχεια »