Εικόνες σελίδας
PDF
Ηλεκτρ. έκδοση

CYNYRCHION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, 1892 (RHYL).
O dan olygiaeth E. VINCENT EVANS (Vinsent).

[blocks in formation]

MRI. WOODALL, MINSHALL, THOMAS A'U CYF., CROESOSWallt.

1908.

[blocks in formation]

RHAGAIR.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1890 (Bangor) cynygiodd "Cymdeithas yr Eisteddfod" wobr o Hanner Cant o Bunnau am "Y Gwaith goreu (anghyhoeddedig) yn arddangos ymchwiliad gwreiddiol mewn unrhyw ganghen o Lenyddiaeth Gymreig." Yr amcan mewn golwg ydoedd rhoddi cefnogaeth i ymchwilwyr a allent fod yn gweithio yn ddistaw mewn rhyw gylch o wybodaeth i ddadblygu yr hyn oedd ynddynt, ac i gyhoeddi ffrwyth eu llafur. Anfonwyd saith o Weithiau i mewn, ond yn marn y Pwyllgor a ddewiswyd i'w pwyso, nid oedd un ohonynt yn deilwng o'r wobr Ar yr un pryd yr oedd calondid yn yr ymgais, a chynygiwyd y wobr drachefn yn Eisteddfodd Genedlaethol 1892 (Rhyl), a'r tro hwn fe'i dyfarnwyd i Mr. Charles Ashton, Dinas Mawddwy, awdwr "Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850"; "Bywyd ac Amserau yr Esgob Morgan"; "Casgliad o Weithiau Iolo Goch," ac amryw lyfrau adnabyddus eraill, am gasgliad o "Lyfryddiaeth Gymreig y Bedwaredd-Ganrif-a'r Bymtheg." Trwy garedigrwydd a haelioni y Dr., yn awr Syr John Williams Barwnig, y pryd hwnw o Lundain, fe wnaethpwyd trefniadau i gyhoeddi y "Llyfryddiaeth" mewn saith neu wyth o gyfrolau. Ymgymerodd yr awdwr a'r gwaith o berffeithio y Casgliad, ac o ychwanegu ato fanylion Llyfryddiaeth Gymreig o 1892 i'r flwyddyn 1900 Llafuriodd yn ddyfal hyd ei farwolaeth yn 1899 i wneyd y Casgliad mor llawn a gorphenedig ag oedd yn ddichonadwy. Dechreuwyd argraphu y gyfrol gyntaf, a bwriedid iddi gynwys llyfrau y blynyddoedd o 1801 i 1820; ond gadawyd hi yn anorphenedig. Oherwydd marwolaeth yr awdwr ac oblegid amgylchiadau neillduol eraill methwyd myned ymlaen a'r gwaith ar y pryd, ac y mae lle i ofni nas gellir yn awr ei gwblhau yn ol y bwriad cyntefig. Yn hytrach na gadael i'r hyn a orphenwyd fyned i golli, fe farnwyd yn ddoeth, gyda hyn o eglurhad ac o ymddiheurad, i gyhoeddi y gyfrol hon yn ei ffurf bresennol, yn cynwys yn unig Lyfryddiaeth y deng mlynedd cyntaf o'r ganrif ddiweddaf.--Dros Gymdeithas yr Eisteddfod, E. VINCENT EVANS, Ysgrifenydd.

LLYFRYDDIAETH GYMREIG

1801.

1.-Y Bibl Cyssegr-lan; Sef yr Hen Destament a'r Newydd. Rhydychen Printiedig yn Argraphdy Clarendon, gan W. Dawson, J. Bensley, a J. Cooke, Printwyr i'r Brifysgol. MDCCCI.

Unplyg; gyda'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a Salmau Cân Edmund Prys, y rhai ydynt yn dwyn yr un amseriad -wedi eu cydrwymo ag ef.

2.—Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Yn y Mwythig: Printiedig ac ar werth gan J. a W. Eddowes.

Nis

12plyg; heb rifnodi y tudalenau, ac heb amseriad. gwyddom a gyhoeddwyd hwn yn y ganrif bresennol ai peidio; ond gwyddom fod yr argraffwyr yn argraffu, o'r hyn lleiaf, rhwng 1790 a 1801.

3. Deongliad ar Efengyl St. Mathew, wedi ei gymmeryd allan o waith rhai o'r Deonglyddion goreu yn Saesneg. Neu gyfieithiad o Ddeongliad Dr. Clarke, wedi ei helaethu mewn rhai mannau ag ychydig bigion a gymmerwyd allan o waith Dr. Whitby, &c. Ac at Sulwadau Clarke fe chwanegwyd rhai eraill allan o waith Hammond, Whitby, Pearce, &c. Gan y Parchedig Richard Jones, Curad Rhuthin, yn Sir Ddinbych. Caerlleon: Argraphwyl gan W. Minshull, Eastgate. 1801.

66

Splyg; 8 144-152 o dudalenau. Cyflwynir y gyfrol i'r Parch. Thomas Hughes, Prebendari Westminster, er coffa diolchus am ei ragorol ewyllys da, a'i haelaf gymmorth i'w gyhoeddi." Mewn nodiad yn y llythyr "At y Darllenydd" hysbysir ddarfod "ei olygu a'i ddiwygio yn ofalus gan eglwyswr cyfarwydd, sef Mr. Williams, Person Llangar, yn Sir Feirionydd." Bu y Parch. Robert Williams yn Rheithor Llandegla o 1789 hyd 1796, ac yn Rheithor Llangar o 1796 hyd 1826.

Am y rhanau ereill ar Marc a Luc gwel dan y blynyddoedd 1802 ac 1804. Oddi wrth grybwylliad yn un o restrau (Catalogues) Mr. William Williams, Rhuthyn, tybiwn i'r Deongliad ar Efengyl St. Ioan gael ei gyhoeddi yn 1807; ond ni welsom hwnw.

« ΠροηγούμενηΣυνέχεια »