CERDDORIAETH CHANIADAETH. GAN JOHN MILLS, AWDUR Y GRAMADEG CERDDORIAETH, &c. &c. &c. YR AIL ARGRAFFIAD, WEDI EI DDIWYGIO A'I HELAETHU GAN JOHN WILLIAMS, AWDUR Y CANNHRODYDD CYMREIG, &c. DINBYCH : CYHOEDDWYD GAN THOMAS GEE. MDCCCL, HARVARD COLLEGE DEC 28 1931 LIBRARY Prof. Fred N. Robinson, w ENTERED AT STATIONERS' HALL. RHAGYMADRODD I'R Ail Argraffiad. MAE yr argraffiad cyntaf o'r "ELFENAU CERDDORIAETH wedi ei werthu. I foddhau dymuniad nifer llïosog o efrydwyr Cerddoriaeth yn y Dywysogaeth, cyhoeddwyd ail argraffiad o hono; a dyma fo. O'i gymharu â'r argraffiad cyntaf, gwelir helaethu cryn lawer ar y pethau a gynnwysir yn hwnw, ac ychwanegu pethau eraill na chynnwysir ynddo, buddiol a rheidiol i'r efrydydd ymchwilgar eu gwybod. Parth y rhan ar GANIADAETH, yr hwn nid oedd yn yr argraffiad cyntaf o gwbl, yr oedd ar ein cenedl wir anghen am hyfforddiadau arno; canys nid oedd dim o werth, am a wyddis, wedi ei gyhoeddi yn y Gymraeg ar hyny! Amcanwyd ei gyfansoddi mor wreiddiol, dealladwy, a dyddorol ag oedd bosibl ; ac i gynnwys cymaint o hyfforddiadau ar Ganiadaeth, ag oedd ddichonadwy, ac y sydd yn rheidiol i'r efrydydd eu gwybod, i fod yn ganor mor fedrus a chelfyddgar, fel na raid fod gwaeth ganddo pwy a'i clywo, ond iddo ymarfer. ELFENAU CERDDORIAETH. I.-YR ERWYDD. Gofyniad. Beth yw cerddoriaeth? Ateb. Y wybodaeth sydd yn egluro egwyddorion canu. 2. Beth yw y wers gyntaf ynddi? Yr Erwydd; sef pum llinell wedi eu gwneyd y naill uwchlaw y llall: fel hyn : 3. Beth yw dyben yr erwydd? I ysgrifenu y dôn arno-hyny yw, ar y llinellau ac yn y cyfryngau yr ysgrifenir y nodau. 4. Pa nifer o nodau a ellir roi ar yr erwydd? Naw: ac os bydd eisieu ychwaneg, gellir rhoi un islaw y llinell isaf, ac un arall uwchlaw y llinell uchaf: fel hyn : 5. Beth os bydd eisieu ychwaneg nag un ar ddeg? Gellir ychwanegu y nifer a fynir trwy wneyd gorlinellau uwchlaw neu islaw yr erwydd; fel hyn : -3- -3 B |